OwenOWEN26 Ebrill 2025. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o 1 Rhos Llwyn, Llangefni gynt o Isfron, Ceidio, Llanerchymedd yn 88 mlwydd oed. Annwyl briod Glenys, tad tyner Gwenda, Alwyn a Nerys, tad yng nghyfraith arbennig Gwyndaf, Mair a Keith, taid caredig Ffion, Catrin, Sion, Dafydd, Llinos a Carwyn, hen daid balch Cai, Jac, Elis, Efan, Alaw a Dela a brawd hoff Brenda a'r ddiweddar Lizzie, Jack, Dick, Wil, Kay a Mary. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd preifat yn ol ei ddymuniad. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Canser y Pancreas trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates